Margaret MaryOWEN(May) Yn dawel yn Ysbyty Glangwili, fore Mercher Medi 3, May o Ty Capel, Hebron; priod hoff y diweddar Gomer, mam ofalus iawn Raymond a Bryan, a mam-yng-nghyfraith garedig i'r ddwy Barbara, hefyd mamgu, hen famgu, chwaer a chwaer-yng-nghyfraith ac anti gariadus ynghyd a ffrind da i lawer. Angladd gyhoeddus yng Nghapel Hebron, ddydd Gwener Medi 12 am 1.30 o'r gloch. Dim blodau ond derbynnir rhoddion er cof, os dymunir at Sefydliad Aren Cymru, trwy law Dennis Jones, Trefnwr Angladdau, Maesawelon, Efailwen, Clunderwen. SA66 7UX. Ffon 01994 419561
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret